Ond dyma Raffael yn gofyn iddo, “Onid wyt ti'n cofio gorchmynion dy dad, pan ddywedodd wrthyt am briodi gwraig o blith teulu dy dad? Gwrando yn awr, felly, fy mrawd, a phaid â phryderu ynghylch y cythraul hwn. Prioda hi. Rwy'n gwybod y bydd hi heno yn cael ei rhoi'n wraig iti.