Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 6:12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y mae hi'n ferch gall a dewr ac eithriadol brydferth, a'i thad yn ddyn nobl.” Ychwanegodd, “Y mae'n iawn i ti ei chael hi'n wraig. Gwrando arnaf, felly, fy mrawd. Siaradaf â'i thad heno am y ferch, er mwyn inni ei chael hi'n ddyweddi iti. A phan ddychwelwn o Rhages cawn ddathlu ei phriodas. Y mae gennyf wybodaeth sicr na all Ragwel ei gwrthod i ti, na'i dyweddïo i neb arall, gan y byddai felly yn haeddu marwolaeth yn ôl dyfarniad llyfr Moses, oherwydd y mae'n gwybod mai braint i ti rhagor undyn arall yw etifeddu ei ferch yn wraig. Gwrando arnaf yn awr, fy mrawd. Cawn siarad am y ferch heno, a'i dyweddïo i ti, a phan ddychwelwn o Rhages fe'i cymerwn hi'n wraig iti a mynd â hi'n ôl gyda ni i'th gartref.”

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 6

Gweld Tobit 6:12 mewn cyd-destun