Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 5:9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Aeth Tobias allan a galw arno. “Y mae 'nhad am dy weld di, ŵr ifanc,” meddai wrtho. Pan ddaeth i'r tŷ ato, Tobit oedd gyntaf â'i gyfarchiad. Ymatebodd yntau fel hyn: “A phob dymuniad da i tithau!” Ond ateb Tobit oedd: “Pa dda y gellir ei ddymuno i mi, bellach, a minnau heb ddefnydd fy llygaid? Ni allaf weld golau dydd; yr wyf wedi fy ngosod mewn tywyllwch, fel y meirw nad ydynt mwyach yn gweld y golau. Er yn fyw, rwyf yng nghwmni'r meirw; rwy'n clywed lleisiau pobl, ond ni allaf eu gweld.” “Cod dy galon,” meddai Raffael wrtho, “y mae ym mwriad Duw dy iacháu gyda hyn; cod dy galon!” Yna esboniodd Tobit iddo fel hyn: “Y mae Tobias fy mab am deithio i Media. A elli di fynd gydag ef a'i arwain yno? Fe ofalaf fi y cei di dy gyflog, fy mrawd.” Atebodd yntau, “Gallaf, mi af gydag ef. Rwy'n gyfarwydd â'r ffyrdd i gyd, am i mi fod droeon yn Media a thramwyo'i holl diroedd gwastad yn ogystal â'i mynyddoedd. Rwy'n adnabod ei ffyrdd i gyd.”

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 5

Gweld Tobit 5:9 mewn cyd-destun