Tobit 5:5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
ond ni wyddai mai angel Duw oedd ef. Gofynnodd iddo, “O ble rwyt ti'n dod, ŵr ifanc?” “O blith meibion Israel, dy frodyr,” meddai wrtho, “ac rwyf wedi dod yma i gael gwaith.” A dyma'i holi ymhellach, “A wyt ti'n gyfarwydd â'r ffordd i fynd i Media?”