5. Bydd yn ffyddlon i'r Arglwydd holl ddyddiau dy fywyd, fy machgen, heb bechu o'th ewyllys na throseddu yn erbyn ei orchmynion. Gwna weithredoedd da holl ddyddiau dy fywyd, a phaid â cherdded llwybrau drygioni;
6. oherwydd caiff y rhai cywir eu gweithredoedd lwyddiant yn eu gwaith,
7. ac i'r cyfiawn eu gweithredoedd
19. fe rydd yr Arglwydd gyngor da, ond y mae'n darostwng i ddyfnder Hades unrhyw un a fyn. Cofia'r gorchmynion hyn yn awr, fy machgen, heb adael i'r un ohonynt gael ei ddileu o'th feddwl.
20. “Ac yn awr, fy machgen, rwyf am i ti wybod bod gennyf ddeg darn arian ynghadw yng ngofal Gabael, brawd Gabri, yn Rhages yn Media.
21. Ac felly, os ydym wedi mynd yn dlawd, paid â phryderu, fy machgen. Mawr fydd dy gyfoeth os bydd iti ddal i ofni Duw, gan gilio oddi wrth bob pechod a gwneud yr hyn sydd dda yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.”