Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 4:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. a myfyriodd ynddo'i hun fel hyn: “Gan imi weddïo am gael marw, oni ddylwn alw Tobias fy mab ac esbonio wrtho am yr arian hwn cyn imi farw?”

3. Felly, galwodd ei fab Tobias a dweud wrtho pan ddaeth ato, “Rho angladd parchus i mi, ac anrhydedda dy fam; paid â'i gadael hi'n ddigymorth tra bydd hi byw. Gwna'r hyn a fydd wrth fodd ei chalon, a phaid â pheri gofid iddi ag unrhyw weithred.

4. Cofia, fy machgen, iddi wynebu peryglon lawer wrth dy gario di yn ei chroth. Pan fydd hi farw, rho hi i orwedd wrth fy ochr yn yr un bedd.

5. Bydd yn ffyddlon i'r Arglwydd holl ddyddiau dy fywyd, fy machgen, heb bechu o'th ewyllys na throseddu yn erbyn ei orchmynion. Gwna weithredoedd da holl ddyddiau dy fywyd, a phaid â cherdded llwybrau drygioni;

6. oherwydd caiff y rhai cywir eu gweithredoedd lwyddiant yn eu gwaith,

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 4