Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 10:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd Tobit, bob dydd ar ôl ei gilydd, yn cadw cyfrif o'r dyddiau, sawl un oedd cyn i Tobias gyrraedd Rhages a sawl un cyn iddo ddychwelyd. A phan ddaeth y dyddiau i ben a'i fab heb ddod yn ei ôl,

2. dechreuodd ddyfalu, “Tybed a gafodd ei ddal yno? Efallai fod Gabael wedi marw, ac nad oes neb i drosglwyddo'r arian iddo.”

3. Ac yntau'n dechrau gofidio,

4. dywedodd Anna ei wraig, “Y mae hi ar ben ar fy machgen; nid yw bellach ar dir y rhai byw.” Torrodd i wylo a galaru am ei mab, a dweud,

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 10