Yna, wedi i Achicar eiriol ar fy rhan, dychwelais i Ninefe. Oherwydd yn ystod teyrnasiad Senacherib ar yr Asyriaid, Achicar oedd â gofal cwpan a sêl y brenin; ef hefyd oedd y prif weinidog a'r trysorydd. Ailbenodwyd ef i'r swyddi hyn gan Esarhadon. Yr oedd yn nai i mi, o'r un dras yn union â mi.