Cleddais hefyd bwy bynnag a laddwyd gan Senacherib wedi iddo ffoi yn ôl o Jwdea ar adeg y farnedigaeth a ddug Brenin y Nef arno ar gyfrif ei holl gableddau. Oherwydd yn ei ddicter fe laddodd lawer o blant Israel, ond byddwn yn dwyn eu cyrff ac yn eu claddu; ac er i Senacherib chwilio amdanynt, ni ddaeth o hyd iddynt.