Hen Destament

Testament Newydd

Swsanna 1:51-54 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

51. Atebodd Daniel: “Gosodwch y ddau ar wahân, ymhell oddi wrth ei gilydd, ac yna fe'u holaf.”

52. Wedi eu gosod ar wahân, galwodd Daniel un ohonynt a dweud wrtho, “Ti sydd yn hen law mewn drygioni, y mae'r pechodau a wnaethost gynt bellach wedi dod i olau dydd:

53. barnu'n anghyfiawn, condemnio'r dieuog, gollwng yn rhydd yr euog, er i'r Arglwydd ddweud, ‘Na ladd y dieuog a'r cyfiawn.’

54. Yn awr, os yn wir y gwelaist y wraig hon, dywed o dan ba goeden y gwelaist hwy'n cydorwedd.” Atebodd yntau, “O dan gollen.”

Darllenwch bennod gyflawn Swsanna 1