Hen Destament

Testament Newydd

Swsanna 1:30-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Daeth hithau gyda'i rhieni a'i phlant a'i holl berthnasau.

31. Yr oedd Swsanna yn wraig hynod o lednais a phrydferth ei golwg.

32. Yr oedd ei hwyneb wedi ei orchuddio, a gorchmynnodd y dihirod dynnu ymaith ei gorchudd, er mwyn iddynt wledda ar ei phrydferthwch.

33. Dechreuodd ei theulu wylo, a phawb a'i gwelodd.

34. Yna cododd y ddau henuriad yng nghanol y bobl, a gosod eu dwylo ar ei phen.

35. Edrychodd hithau, gan wylo, tua'r nefoedd, am fod ei chalon yn ymddiried yn yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Swsanna 1