Hen Destament

Testament Newydd

Swsanna 1:28-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Trannoeth, pan ddaeth y bobl ynghyd i dŷ Joacim, ei gŵr, daeth y ddau henuriad, yn llawn o'u bwriad camweddus i roi Swsanna i farwolaeth.

29. Dywedasant gerbron y bobl: “Anfonwch am Swsanna ferch Hilceia, sy'n wraig i Joacim.” Anfonwyd amdani.

30. Daeth hithau gyda'i rhieni a'i phlant a'i holl berthnasau.

31. Yr oedd Swsanna yn wraig hynod o lednais a phrydferth ei golwg.

32. Yr oedd ei hwyneb wedi ei orchuddio, a gorchmynnodd y dihirod dynnu ymaith ei gorchudd, er mwyn iddynt wledda ar ei phrydferthwch.

33. Dechreuodd ei theulu wylo, a phawb a'i gwelodd.

34. Yna cododd y ddau henuriad yng nghanol y bobl, a gosod eu dwylo ar ei phen.

Darllenwch bennod gyflawn Swsanna 1