Swsanna 1:14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Aethant i ffwrdd ac ymwahanu, ond troesant yn ôl a dod i'r un lle eto. Wrth groesholi ei gilydd, daethant i gyfaddef eu blys. Yna trefnasant gyda'i gilydd ar amser cyfleus i allu ei chael hi ar ei phen ei hun.