Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 9:3-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Cododd Tyrus dŵr iddi ei hun;pentyrrodd arian fel llwch,ac aur fel llaid heol.

4. Ond wele, y mae'r ARGLWYDD yn cymryd ei heiddoac yn difetha ei grym ar y môr;ac ysir hithau yn y tân.

5. Bydd Ascalon yn gweld ac yn ofni,Gasa hefyd, a bydd yn gwingo gan ofid,ac Ecron, oherwydd drysir ei gobaith;derfydd am frenin yn Gasa,a bydd Ascalon heb drigolion;

6. pobl gymysgryw fydd yn trigo yn Asdod,a thorraf ymaith falchder y Philistiad.

7. Tynnaf ymaith ei waed o'i enau,a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd;bydd yntau'n weddill i'n Duw ni,ac fel tylwyth yn Jwda;a bydd Ecron fel y Jebusiaid.

8. Yna gwersyllaf i wylio fy nhŷ,fel na chaiff neb fynd i mewn nac allan.Ni ddaw gorthrymydd atynt mwyach,oherwydd yr wyf yn gwylio'n awr â'm llygaid fy hun.

9. “Llawenha'n fawr, ferch Seion;bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem.Wele dy frenin yn dod atatâ buddugoliaeth a gwaredigaeth,yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn,ar ebol, llwdn asen.

10. Tyr ymaith y cerbyd o Effraima'r meirch o Jerwsalem;a thorrir ymaith y bwa rhyfel.Bydd yn siarad heddwch â'r cenhedloedd;bydd ei lywodraeth o fôr i fôr,o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.

11. “Amdanat ti, oherwydd gwaed y cyfamod rhyngom,gollyngaf dy garcharorion yn rhydd o'r pydew di-ddŵr.

12. Dychwelwch i'ch amddiffynfa, chwi garcharorion hyderus;heddiw yr wyf yn cyhoeddi i chwi adferiad dauddyblyg.

13. Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda,ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim;codaf dy feibion, Seion,yn erbyn meibion Groeg,a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr.”

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 9