Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 6:3-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. wrth y trydydd, feirch gwynion, ac wrth y pedwerydd, feirch brithion.

4. Yna gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain, f'arglwydd?”

5. Ac atebodd yr angel, “Y rhain yw pedwar gwynt y nefoedd sy'n mynd allan o'u safle gerbron Arglwydd yr holl ddaear.

6. Y mae'r cerbyd gyda cheffylau duon yn mynd i dir y gogledd, yr un gyda'r rhai gwynion i'r gorllewin, yr un gyda'r rhai brithion i'r de.”

7. Daeth y meirch allan yn barod i dramwyo'r ddaear. A dywedodd, “Ewch i dramwyo'r ddaear.” A gwnaethant hynny.

8. Yna galwodd arnaf a dweud, “Edrych fel y mae'r rhai sy'n mynd i dir y gogledd wedi rhoi gorffwys i'm hysbryd yn nhir y gogledd.”

9. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

10. “Cymer arian ac aur oddi ar Haldai, Tobeia a Jedaia, caethgludion a ddaeth o Fabilon, a dos di y dydd hwnnw i dŷ Joseia fab Seffaneia.

11. Gwna goron o'r arian a'r aur, a'i rhoi ar ben Josua fab Josedec, yr archoffeiriad,

12. a dweud wrtho, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Wele'r dyn a'i enw Blaguryn, oherwydd blagura o'i gyff ac adeiladu teml yr ARGLWYDD.

13. Ef fydd yn adeiladu teml yr ARGLWYDD ac yn dwyn anrhydedd ac yn eistedd i deyrnasu ar ei orsedd; bydd offeiriad yn ymyl ei orsedd a chytundeb perffaith rhyngddynt.’

14. A bydd y goron yn nheml yr ARGLWYDD yn goffâd i Haldai, Tobeia, Jedaia a Joseia fab Seffaneia.

15. Daw rhai o bell i adeiladu teml yr ARGLWYDD, a chewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd i atoch. A bydd hyn os gwrandewch yn astud ar lais yr ARGLWYDD eich Duw.”

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 6