1. Dychwelodd yr angel oedd yn siarad â mi, a'm deffro fel rhywun yn deffro o'i gwsg,
2. a dweud wrthyf, “Beth a weli?” Atebais innau, “Yr wyf yn gweld canhwyllbren, yn aur i gyd, a'i badell ar ei ben; y mae iddo saith o lampau a saith o bibellau i'r lampau arno;
3. y mae dwy olewydden gerllaw iddo, un ar dde'r badell a'r llall ar ei chwith.”
4. Gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain, f'arglwydd?”
5. Ac atebodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Oni wyddost beth yw'r rhain?” Dywedais, “Na wn i, f'arglwydd.”
6. Yna dywedodd wrthyf, “Dyma air yr ARGLWYDD at Sorobabel: ‘Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd.
7. Beth wyt ti, O fynydd mawr? O flaen Sorobabel nid wyt ond gwastadedd. Bydd ef yn gosod y garreg uchaf, a phawb yn galw arni, ‘Bendith! Bendith arni!’ ”
8. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,