Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dychwelodd yr angel oedd yn siarad â mi, a'm deffro fel rhywun yn deffro o'i gwsg,

2. a dweud wrthyf, “Beth a weli?” Atebais innau, “Yr wyf yn gweld canhwyllbren, yn aur i gyd, a'i badell ar ei ben; y mae iddo saith o lampau a saith o bibellau i'r lampau arno;

3. y mae dwy olewydden gerllaw iddo, un ar dde'r badell a'r llall ar ei chwith.”

4. Gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain, f'arglwydd?”

5. Ac atebodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Oni wyddost beth yw'r rhain?” Dywedais, “Na wn i, f'arglwydd.”

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 4