Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Yr Archoffeiriad Josua

1. Yna dangosodd imi Josua yr archoffeiriad, yn sefyll o flaen angel yr ARGLWYDD, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw i'w gyhuddo.

2. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “Y mae'r ARGLWYDD yn dy geryddu di, Satan; yr ARGLWYDD, yr un a ddewisodd Jerwsalem, sy'n dy geryddu di. Onid marworyn wedi ei arbed o'r tân yw hwn?”

3. Yr oedd Josua yn sefyll o flaen yr angel mewn dillad budron;

4. a dywedodd yr angel wrth ei osgordd, “Tynnwch y dillad budron oddi amdano.” Dywedodd wrth Josua, “Edrych fel y symudais dy euogrwydd oddi wrthyt, ac fe'th wisgaf â gwisgoedd gwynion.”

5. Dywedodd hefyd, “Rhodder twrban glân am ei ben”; a rhoesant dwrban glân am ei ben, a dillad amdano; ac yr oedd angel yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw.

6. Yna rhybuddiodd angel yr ARGLWYDD Josua a dweud,

7. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Os rhodi yn fy ffyrdd a chadw fy ngorchmynion, cei reoli fy nhÅ· a gofalu am fy llysoedd, a rhof iti'r hawl i fynd a dod gyda'r osgordd.

8. Gwrando, Josua yr archoffeiriad, ti a'th gyfeillion sydd ger dy fron, oherwydd arwyddion yw'r dynion hyn. Wele fi'n arwain allan fy ngwas, y Blaguryn.

9. Dyma'r garreg a osodaf o flaen Josua, carreg ac iddi saith llygad, ac wele fi'n egluro eu hystyr,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd. ‘Symudaf ymaith euogrwydd y tir hwn mewn un diwrnod.

10. Y dydd hwnnw,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘byddwch yn gwahodd bob un ei gilydd i eistedd o dan ei winwydden ac o dan ei ffigysbren.’ ”