1. Pan edrychais i fyny, gwelais ŵr â llinyn mesur yn ei law,
2. a dywedais, “Ble'r wyt ti'n mynd?” Atebodd, “I fesur Jerwsalem, i weld beth yw ei lled a beth yw ei hyd.”
3. Wrth i'r angel oedd yn siarad â mi ddod allan, daeth angel arall i'w gyfarfod,
4. a dweud wrtho, “Rhed i ddweud wrth y llanc acw, ‘Bydd Jerwsalem yn faestrefi heb furiau, gan mor niferus fydd pobl ac anifeiliaid ynddi.
5. A byddaf fi,’ medd yr ARGLWYDD, ‘yn fur o dân o'i hamgylch, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.’ ”
6. “Gwyliwch, gwyliwch! Ffowch o dir y gogledd,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd taenaf chwi ar led fel pedwar gwynt y nefoedd,” medd yr ARGLWYDD.
7. “Gwyliwch! Ffowch i Seion, chwi sy'n trigo ym Mabilon.”
8. Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, wedi i'w ogoniant fy anfon at y cenhedloedd sy'n eich ysbeilio, am fod pob un sy'n cyffwrdd â chwi yn cyffwrdd â channwyll ei lygad:
9. “Wele fi'n ysgwyd fy nwrn yn eu herbyn, a byddant yn ysbail i'w gweision eu hunain.” Yna cewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd.
10. “Gwaedda a gorfoledda, ferch Seion; oherwydd yr wyf yn dod i drigo yn dy ganol,” medd yr ARGLWYDD.
11. “A bydd cenhedloedd lawer yn glynu wrth yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn dod yn bobl i mi, a byddaf yn trigo yn dy ganol, a chei wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd atat.
12. Bydd yr ARGLWYDD yn etifeddu Jwda yn gyfran iddo yn y tir sanctaidd, a bydd eto yn dewis Jerwsalem.
13. Distawed pawb gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd y mae wedi codi o'i drigfa sanctaidd.”