Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 13:2-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Yn y dydd hwnnw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “torraf ymaith enwau'r eilunod o'r tir, ac ni chofir hwy mwyach; symudaf hefyd o'r tir y proffwydi ac ysbryd aflendid.

3. Ac os cyfyd un i broffwydo eto, fe ddywed ei dad a'i fam a'i cenhedlodd, ‘Ni chei fyw, am iti lefaru twyll yn enw'r ARGLWYDD’, a bydd ei dad a'i fam a'i cenhedlodd yn ei ladd wrth iddo broffwydo.

4. Yn y dydd hwnnw bydd ar bob proffwyd gywilydd o'i weledigaeth wrth broffwydo, ac ni fydd yn gwisgo mantell o flew er mwyn twyllo,

5. ond dywed, ‘Nid proffwyd wyf fi, ond dyn yn trin tir, a'r tir yn gynhaliaeth imi o'm hieuenctid.’

6. Os dywed rhywun wrtho, ‘Beth yw'r creithiau hyn ar dy gorff?’ fe etyb, ‘Fe'u cefais yn nhŷ fy nghyfeillion.’ ”

7. “Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail,ac yn erbyn y gŵr sydd yn f'ymyl,”medd ARGLWYDD y Lluoedd.“Taro'r bugail, a gwasgerir y praidd,a rhof fy llaw yn erbyn y rhai bychain.

8. Yn yr holl dir,” medd yr ARGLWYDD,“trewir dwy ran o dair, a threngant,a gadewir traean yn fyw.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 13