Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 12:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. “Wele fi'n gwneud Jerwsalem yn gwpan feddwol i'r holl bobloedd oddi amgylch; a bydd yn Jwda warchae yn erbyn Jerwsalem.

3. Yn y dydd hwnnw, pan fydd holl genhedloedd y ddaear wedi ymgasglu yn ei herbyn, gwnaf Jerwsalem yn garreg rhy drom i'r holl bobloedd, a bydd pwy bynnag a'i cwyd yn brifo'n arw.

4. Y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “trawaf bob ceffyl â syndod, a'i farchog â dryswch; cadwaf fy ngolwg ar dŷ Jwda, ond trawaf holl geffylau'r bobloedd yn ddall.

5. Yna dywed tylwythau Jwda wrthynt eu hunain, ‘Cafodd trigolion Jerwsalem nerth trwy ARGLWYDD y Lluoedd, eu Duw.’

6. “Y dydd hwnnw gwnaf dylwythau Jwda fel basged dân yng nghanol coed, fel ffagl dân mewn ysgub; byddant yn ysu'r holl bobloedd o'u cwmpas, ar y dde a'r chwith, ac eto bydd Jerwsalem ei hun yn aros yn ddiogel yn ei lle.

7. “Rhydd yr ARGLWYDD waredigaeth yn gyntaf i deuluoedd Jwda, rhag i ogoniant tŷ Dafydd a gogoniant trigolion Jerwsalem ddyrchafu'n uwch na Jwda.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 12