Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Agor dy byrth, O Lebanon,er mwyn i dân ysu dy gedrwydd.

2. Galarwch, ffynidwydd; oherwydd syrthiodd y cedrwydd,dinistriwyd y coed cryfion.Galarwch, dderw Basan,oherwydd syrthiodd y goedwig drwchus.

3. Clywch alarnadu'r bugeiliaid,am i'w gogoniant gael ei ddinistrio;clywch ru'r llewod,am i goedwig yr Iorddonen gael ei difetha.

Y Ddau Fugail

4. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy Nuw: “Portha'r praidd sydd i'w lladd.

5. Bydd y sawl sy'n eu prynu yn eu lladd heb deimlo'n euog; bydd y sawl sy'n eu gwerthu yn dweud, ‘Bendigedig fo'r ARGLWYDD, cefais gyfoeth’; ac ni fydd eu bugeiliaid yn tosturio wrthynt.

6. Yn wir, ni thosturiaf mwy wrth drigolion y wlad,” medd yr ARGLWYDD. “Wele fi'n gwneud i bawb syrthio i ddwylo'i gilydd ac i ddwylo'u brenin; ac fel y dinistrir y wlad, ni waredaf neb o'u gafael.”

7. Porthais y praidd a oedd i'w lladd ar gyfer y marchnatwyr. Cymerais ddwy ffon, a galw'r naill, Trugaredd, a'r llall, Undeb; a phorthais y praidd.

8. Mewn un mis diswyddais dri o'r bugeiliaid am imi flino arnynt, ac yr oeddent hwythau'n fy nghasáu innau.

9. Yna dywedais, “Ni fugeiliaf chwi; y rhai sydd i farw, bydded iddynt farw, a'r rhai sydd i'w dinistrio, bydded iddynt fynd i ddinistr; a bydded i'r rhai sy'n weddill fwyta cnawd ei gilydd.”

10. A chymerais fy ffon Trugaredd a'i thorri, gan ddiddymu'r cyfamod a wneuthum â'r holl bobloedd.

11. Fe'i diddymwyd y dydd hwnnw, a gwyddai'r marchnatwyr a edrychai arnaf mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn.

12. A dywedais wrthynt, “Os yw'n dderbyniol gennych, rhowch imi fy nghyflog; os nad yw, peidiwch.” A bu iddynt hwythau bwyso fy nghyflog, deg darn ar hugain o arian.

13. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Bwrw ef i'r drysorfa—y pris teg a osodwyd arnaf, i'm troi ymaith!” A chymerais y deg darn ar hugain a'u bwrw i'r drysorfa yn nhÅ·'r ARGLWYDD.

14. Yna torrais yr ail ffon, Undeb, gan ddiddymu'r frawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.

15. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cymer eto offer bugail diwerth,

16. oherwydd yr wyf yn codi yn y wlad fugail na fydd yn gofalu am y ddafad golledig, nac yn ceisio'r grwydredig, nac yn gwella'r friwedig, nac yn porthi'r iach, ond a fydd yn bwyta cnawd y rhai bras ac yn rhwygo'u traed i ffwrdd.

17. “Gwae'r bugail diwerth,sy'n gadael y praidd.Trawed y cleddyf ei fraicha'i lygad de;bydded ei fraich yn gwbl ddiffrwyth,a'i lygad de yn hollol ddall.”