Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 10:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Gwnaf dŷ Jwda yn nerthol,a gwaredaf dŷ Joseff;dychwelaf hwy am fy mod yn tosturio wrthynt,a byddant fel pe bawn heb erioed eu gwrthod;oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw, ac fe'u hatebaf.

7. Yna bydd Effraim fel rhyfelwr,a'i galon yn llawenhau fel gan win,a bydd ei blant yn gweld ac yn llawenychu,a'u calonnau'n gorfoleddu yn yr ARGLWYDD.

8. Chwibanaf arnynt i'w casglu ynghyd, oherwydd gwaredaf hwy,a byddant cyn amled ag y buont gynt.

9. Er imi eu gwasgaru ymysg cenhedloedd,eto mewn gwledydd pell fe'm cofiant,a magu plant, a dychwelyd.

10. Dygaf hwy'n ôl o wlad yr Aifft,a chasglaf hwy o Asyria;dygaf hwy i mewn i dir Gilead a Lebanonhyd nes y byddant heb le.

11. Ânt trwy fôr yr argyfwng;trewir tonnau'r môr,a sychir holl ddyfnderoedd y Neil.Darostyngir balchder Asyria,a throir ymaith deyrnwialen yr Aifft.

12. Gwnaf hwy'n nerthol yn yr ARGLWYDD,ac ymdeithiant yn ei enw,” medd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 10