Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 1:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn yr wythfed mis o ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Sechareia fab Beracheia, fab Ido, a dweud,

2. “Digiodd yr ARGLWYDD yn fawr wrth eich hynafiaid.

3. Dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Dychwelwch ataf fi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘a dychwelaf finnau atoch chwi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd.

4. ‘Peidiwch â bod fel eich hynafiaid, y galwodd y proffwydi gynt arnynt, a dweud, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Trowch oddi wrth eich ffyrdd drygionus a'ch gweithredoedd drygionus, ond ni wrandawsant na rhoi sylw imi,’ medd yr ARGLWYDD.

5. ‘Eich hynafiaid—ple maent? A'r proffwydi—a ydynt i fyw am byth?

6. Ond y geiriau a'r deddfau a orchmynnais i'm gweision y proffwydi—oni ddaethant ar eich hynafiaid? A ddychwelasant hwy a dweud, Gwnaeth ARGLWYDD y Lluoedd fel y bwriadodd i ni am ein ffyrdd a'n gweithredoedd?’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 1