Hen Destament

Testament Newydd

Ruth 4:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Atebodd y perthynas, “Ni fedraf ei brynu heb ddifetha f'etifeddiaeth fy hun. Pryn di ef, oherwydd ni allaf fi.”

7. Erstalwm dyma fyddai'r arfer yn Israel wrth brynu'n ôl a throsglwyddo eiddo: er mwyn cadarnhau unrhyw gytundeb byddai'r naill yn tynnu ei esgid ac yn ei rhoi i'r llall. Dyna oedd dull ardystio yn Israel.

8. Felly, pan ddywedodd y perthynas wrth Boas, “Pryn ef i ti dy hun”, fe dynnodd ei esgid.

9. A dywedodd Boas wrth yr henuriaid a'r bobl i gyd, “Yr ydych chwi yn dystion fy mod i heddiw wedi prynu holl eiddo Elimelech a holl eiddo Chilion a Mahlon o law Naomi.

Darllenwch bennod gyflawn Ruth 4