Hen Destament

Testament Newydd

Ruth 1:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Dywedodd hithau wrthynt, “Peidiwch â'm galw'n Naomi, galwch fi'n Mara; oherwydd bu'r Hollalluog yn chwerw iawn wrthyf.

21. Yr oeddwn yn llawn wrth fynd allan, ond daeth yr ARGLWYDD â mi'n ôl yn wag. Pam y galwch fi'n Naomi, a'r ARGLWYDD wedi tystio i'm herbyn, a'r Hollalluog wedi dod â drwg arnaf?”

22. Fel hyn y dychwelodd Naomi o wlad Moab, a'i merch-yng-nghyfraith, Ruth y Foabes, gyda hi. Daethant i Fethlehem yn nechrau'r cynhaeaf haidd.

Darllenwch bennod gyflawn Ruth 1