Hen Destament

Testament Newydd

Obadeia 1:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. “Wele, gwnaf di'n fychan ymysg y cenhedloedd,ac fe'th lwyr ddirmygir.

3. Twyllwyd di gan dy galon falch,ti sy'n byw yn agennau'r graig,a'th drigfan yn uchel;dywedi yn dy galon,‘Pwy a'm tyn i'r llawr?’

4. Er iti esgyn cyn uched â'r eryr,a gosod dy nyth ymysg y sêr,fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno,” medd yr ARGLWYDD.

5. “Pe dôi lladron atat,neu ysbeilwyr liw nos(O fel y'th ddinistriwyd!),onid digon iddynt eu hunain yn unig a ysbeilient?Pe dôi cynaeafwyr grawnwin atat,oni adawent loffion?

6. O fel yr anrheithiwyd Esau,ac yr ysbeiliwyd ei drysorau!

Darllenwch bennod gyflawn Obadeia 1