Hen Destament

Testament Newydd

Obadeia 1:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gweledigaeth Obadeia.Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am Edom(clywsom genadwri gan yr ARGLWYDD;anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd:“Codwch! Gadewch inni fynd i frwydr yn eu herbyn”):

2. “Wele, gwnaf di'n fychan ymysg y cenhedloedd,ac fe'th lwyr ddirmygir.

3. Twyllwyd di gan dy galon falch,ti sy'n byw yn agennau'r graig,a'th drigfan yn uchel;dywedi yn dy galon,‘Pwy a'm tyn i'r llawr?’

Darllenwch bennod gyflawn Obadeia 1