Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 5:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Gorchymyn i bobl Israel anfon allan o'r gwersyll bob gwahanglwyfus, pob un ac arno waedlif, a phob un a halogwyd trwy gyffwrdd â chorff marw.

3. Anfonwch bob un allan, boed ŵr neu wraig, rhag iddo halogi'r gwersyll yr wyf yn preswylio yn ei ganol.”

4. Gwnaeth pobl Israel hyn, a'u hanfon allan o'r gwersyll, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 5