Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 36:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Pan ddaw jwbili pobl Israel, fe drosglwyddir eu hetifeddiaeth hwy at etifeddiaeth y llwythau y priodwyd hwy iddynt; felly, bydd eu hetifeddiaeth yn cael ei cholli oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein hynafiaid.”

5. Gorchmynnodd Moses i bobl Israel yn ôl gair yr ARGLWYDD, a dweud, “Y mae cais llwyth meibion Joseff yn un cyfiawn.

6. Dyma orchymyn yr ARGLWYDD ynglŷn â merched Seloffehad: cânt briodi â phwy bynnag a ddymunant, cyn belled â bod eu gwŷr yn perthyn i dylwyth eu tad.

7. Nid yw etifeddiaeth pobl Israel i'w throsglwyddo o'r naill lwyth i'r llall; yn hytrach, glyned pob un o bobl Israel wrth etifeddiaeth llwyth ei hynafiaid.

8. Y mae pob merch sy'n meddu ar etifeddiaeth, ni waeth i ba un o lwythau Israel y perthyn, i briodi â dyn o dylwyth ei thad, fel y caiff pob un o bobl Israel ran yn etifeddiaeth ei hynafiaid.

9. Felly, ni fydd yr etifeddiaeth yn cael ei throsglwyddo o'r naill lwyth i'r llall, ond bydd pob un o lwythau pobl Israel yn glynu wrth ei etifeddiaeth ei hun.”

10. Gwnaeth merched Seloffehad fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses,

11. ac fe briododd Mala, Tirsa, Hogla, Milca a Noa, merched Seloffehad, â meibion brodyr eu tad.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 36