Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 35:9-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

10. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch wedi mynd dros yr Iorddonen i mewn i wlad Canaan,

11. yr ydych i neilltuo i chwi eich hunain ddinasoedd i fod yn ddinasoedd noddfa, er mwyn i'r lleiddiad, a laddodd rywun yn anfwriadol, gael ffoi iddynt.

12. Bydd y dinasoedd yn noddfa rhag y dialydd, fel na chaiff y lleiddiad ei ladd cyn iddo sefyll ei brawf o flaen y cynulliad.

13. O'r chwe dinas a nodwch yn ddinasoedd noddfa,

14. bydd tair yr ochr yma i'r Iorddonen, a thair yng ngwlad Canaan.

15. Bydd y chwe dinas hyn yn noddfa i bobl Israel, ac i'r dieithryn a'r ymwelydd yn eu plith, a chaiff pwy bynnag a laddodd rywun yn anfwriadol ffoi iddynt.

16. “ ‘Os bydd rhywun yn taro rhywun arall ag offeryn haearn, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

17. Os bydd yn ei daro â charreg yn ei law, a'r garreg yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

18. Os bydd yn ei daro ag arf pren yn ei law, a'r arf yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

19. Caiff y sawl sy'n dial gwaed roi'r llofrudd i farwolaeth pan ddaw o hyd iddo.

20. Os bydd rhywun yn gwanu rhywun arall mewn casineb, neu'n ymosod arno'n fwriadol, ac yntau'n marw;

21. neu ynteu'n taro rhywun â'i law mewn atgasedd, ac yntau'n marw, yna rhodder y sawl a'i trawodd i farwolaeth; y mae'n llofrudd, a chaiff y sawl sy'n dial gwaed ei roi i farwolaeth pan ddaw o hyd iddo.

22. “ ‘Os bydd rhywun yn gwanu rhywun arall yn sydyn, a heb atgasedd, neu os bydd yn taflu rhywbeth ato'n anfwriadol,

23. neu ynteu heb edrych yn ei daro â charreg a fyddai'n debyg o'i ladd, ac yntau'n marw, yna, gan na fu gelyniaeth rhyngddynt a chan na fwriadodd ei niweidio,

24. y mae'r cynulliad i farnu rhwng yr ymosodwr a'r dialydd gwaed, yn ôl y deddfau hyn;

25. a bydd y cynulliad yn arbed y lleiddiad rhag y dialydd gwaed ac yn ei roi'n ôl yn y ddinas noddfa y ffodd iddi, a chaiff fyw yno nes marw'r archoffeiriad a eneiniwyd â'r olew cysegredig.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 35