Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 35:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. “ ‘Os bydd rhywun yn taro rhywun arall ag offeryn haearn, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

17. Os bydd yn ei daro â charreg yn ei law, a'r garreg yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

18. Os bydd yn ei daro ag arf pren yn ei law, a'r arf yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 35