Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 32:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yna dywedasant, “Os cawsom ffafr yn dy olwg, rho'r tir hwn yn feddiant i'th weision, a phaid â gwneud i ni groesi'r Iorddonen.”

6. Ond dywedodd Moses wrth dylwyth Gad a thylwyth Reuben, “A yw eich brodyr i fynd i ryfel tra byddwch chwi'n eistedd yma?

7. Pam yr ydych am ddigalonni pobl Israel rhag mynd drosodd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt?

8. Dyma a wnaeth eich hynafiaid pan anfonais hwy o Cades-barnea i edrych y wlad,

9. oherwydd pan aethant i fyny i ddyffryn Escol a'i gweld, dechreusant hwythau ddigalonni pobl Israel rhag mynd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 32