Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 32:32-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Awn drosodd i wlad Canaan yn arfog o flaen yr ARGLWYDD, a chadwn ein hetifeddiaeth yr ochr yma i'r Iorddonen.”

33. Rhoddodd Moses i dylwyth Gad a thylwyth Reuben, ac i hanner llwyth Manasse fab Joseff, deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a theyrnas Og brenin Basan, yn cynnwys holl ddinasoedd y wlad a'u tiriogaethau oddi amgylch.

34. Adeiladodd tylwyth Gad Dibon, Ataroth, Aroer,

35. Atroth-soffan, Jaser, Jogbeha,

36. Beth-nimra a Beth-haran yn ddinasoedd caerog, a chorlannau i'r praidd.

37. Adeiladodd tylwyth Reuben Hesbon, Eleale, Ciriathaim,

38. Nebo, Baal-meon, a Sibma, a rhoddwyd enwau newydd ar y dinasoedd a adeiladwyd ganddynt.

39. Aeth meibion Machir fab Manasse i Gilead, a'i meddiannu, a gyrrwyd ymaith yr Amoriaid oedd yno.

40. Rhoddodd Moses Gilead i Machir fab Manasse, ac fe ymsefydlodd ef yno.

41. Aeth Jair fab Manasse i gymryd meddiant o bentrefi Gilead, a rhoddodd iddynt yr enw Hafoth-jair.

42. Aeth Noba i gymryd meddiant o Cenath a'i phentrefi, a'i galw'n Noba, ar ôl ei enw ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 32