25. Dywedodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben wrth Moses, “Fe wna dy weision fel y mae ein harglwydd yn gorchymyn.
26. Bydd ein plant a'n gwragedd, ein gwartheg a'n holl anifeiliaid, yn aros yma yn ninasoedd Gilead,
27. ond fe â dy weision drosodd o flaen yr ARGLWYDD, pob un yn arfog ar gyfer rhyfel, fel y mae ein harglwydd yn gorchymyn.”
28. Rhoddodd Moses orchymyn ynglŷn â hwy i Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nun, ac i bennau-teuluoedd llwythau pobl Israel.
29. Dywedodd Moses wrthynt, “Os â tylwyth Gad a thylwyth Reuben gyda chwi dros yr Iorddonen o flaen yr ARGLWYDD, a phob un ohonynt yn arfog ar gyfer rhyfel, ac os byddant yn darostwng y wlad o'ch blaen, yna rhowch wlad Gilead iddynt yn etifeddiaeth;
30. ond os nad ânt drosodd yn arfog gyda chwi, yna cânt etifeddiaeth yn eich plith chwi yng ngwlad Canaan.”
31. Atebodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben, “Fe wnawn fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'th weision.
32. Awn drosodd i wlad Canaan yn arfog o flaen yr ARGLWYDD, a chadwn ein hetifeddiaeth yr ochr yma i'r Iorddonen.”
33. Rhoddodd Moses i dylwyth Gad a thylwyth Reuben, ac i hanner llwyth Manasse fab Joseff, deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a theyrnas Og brenin Basan, yn cynnwys holl ddinasoedd y wlad a'u tiriogaethau oddi amgylch.