Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 32:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd gan dylwyth Reuben a thylwyth Gad lawer iawn o wartheg; a phan welsant fod tir Jaser a thir Gilead yn dir pori da i anifeiliaid,

2. daethant at Moses, Eleasar yr offeiriad ac arweinwyr y cynulliad, a dweud,

3. “Y mae Ataroth, Dibon, Jaser, Nimra, Hesbon, Eleale, Sebam, Nebo a Beon,

4. sef y tir a orchfygodd yr ARGLWYDD o flaen cynulliad Israel, yn dir pori, ac y mae gan dy weision wartheg.”

5. Yna dywedasant, “Os cawsom ffafr yn dy olwg, rho'r tir hwn yn feddiant i'th weision, a phaid â gwneud i ni groesi'r Iorddonen.”

6. Ond dywedodd Moses wrth dylwyth Gad a thylwyth Reuben, “A yw eich brodyr i fynd i ryfel tra byddwch chwi'n eistedd yma?

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 32