Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 32:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd gan dylwyth Reuben a thylwyth Gad lawer iawn o wartheg; a phan welsant fod tir Jaser a thir Gilead yn dir pori da i anifeiliaid,

2. daethant at Moses, Eleasar yr offeiriad ac arweinwyr y cynulliad, a dweud,

3. “Y mae Ataroth, Dibon, Jaser, Nimra, Hesbon, Eleale, Sebam, Nebo a Beon,

4. sef y tir a orchfygodd yr ARGLWYDD o flaen cynulliad Israel, yn dir pori, ac y mae gan dy weision wartheg.”

5. Yna dywedasant, “Os cawsom ffafr yn dy olwg, rho'r tir hwn yn feddiant i'th weision, a phaid â gwneud i ni groesi'r Iorddonen.”

6. Ond dywedodd Moses wrth dylwyth Gad a thylwyth Reuben, “A yw eich brodyr i fynd i ryfel tra byddwch chwi'n eistedd yma?

7. Pam yr ydych am ddigalonni pobl Israel rhag mynd drosodd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt?

8. Dyma a wnaeth eich hynafiaid pan anfonais hwy o Cades-barnea i edrych y wlad,

9. oherwydd pan aethant i fyny i ddyffryn Escol a'i gweld, dechreusant hwythau ddigalonni pobl Israel rhag mynd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt.

10. Enynnodd llid yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw, a thyngodd a dweud,

11. ‘Am nad ydynt wedi fy nilyn yn ffyddlon, ni chaiff neb o'r rhai a ddaeth i fyny o'r Aifft, ac sy'n ugain oed a throsodd, weld y wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob,

12. ar wahân i Caleb fab Jeffunne y Cenesiad a Josua fab Nun, oherwydd darfu iddynt hwy ddilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon.’

13. Pan enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, gwnaeth iddynt grwydro'r anialwch am ddeugain mlynedd, nes darfod o'r cyfan o'r genhedlaeth a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 32