1. Yr oedd gan dylwyth Reuben a thylwyth Gad lawer iawn o wartheg; a phan welsant fod tir Jaser a thir Gilead yn dir pori da i anifeiliaid,
2. daethant at Moses, Eleasar yr offeiriad ac arweinwyr y cynulliad, a dweud,
3. “Y mae Ataroth, Dibon, Jaser, Nimra, Hesbon, Eleale, Sebam, Nebo a Beon,
4. sef y tir a orchfygodd yr ARGLWYDD o flaen cynulliad Israel, yn dir pori, ac y mae gan dy weision wartheg.”
5. Yna dywedasant, “Os cawsom ffafr yn dy olwg, rho'r tir hwn yn feddiant i'th weision, a phaid â gwneud i ni groesi'r Iorddonen.”
6. Ond dywedodd Moses wrth dylwyth Gad a thylwyth Reuben, “A yw eich brodyr i fynd i ryfel tra byddwch chwi'n eistedd yma?
7. Pam yr ydych am ddigalonni pobl Israel rhag mynd drosodd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt?
8. Dyma a wnaeth eich hynafiaid pan anfonais hwy o Cades-barnea i edrych y wlad,
9. oherwydd pan aethant i fyny i ddyffryn Escol a'i gweld, dechreusant hwythau ddigalonni pobl Israel rhag mynd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt.
10. Enynnodd llid yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw, a thyngodd a dweud,
11. ‘Am nad ydynt wedi fy nilyn yn ffyddlon, ni chaiff neb o'r rhai a ddaeth i fyny o'r Aifft, ac sy'n ugain oed a throsodd, weld y wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob,