1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2. “Yr wyt i ddial ar y Midianiaid ar ran pobl Israel; yna fe'th gesglir at dy bobl.”
3. A dywedodd Moses wrth y bobl, “Arfogwch ddynion o'ch plith iddynt ryfela yn erbyn Midian, a dial arni ar ran yr ARGLWYDD.
4. Anfonwch fil o bob un o lwythau Israel i'r rhyfel.”
5. Felly, o blith tylwythau Israel, penodwyd mil o bob llwyth, deuddeng mil i gyd, wedi eu harfogi ar gyfer rhyfel.
6. Anfonodd Moses hwy i'r frwydr, mil o bob llwyth, ynghyd â Phinees fab Eleasar yr offeiriad, i gludo llestri'r cysegr a'r trwmpedau i seinio rhybudd.
7. Aethant i ryfela yn erbyn Midian, gan ladd pob gwryw, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
8. Ymhlith y rhai a laddwyd yr oedd pum brenin Midian, sef Efi, Recem, Sur, Hur a Reba; lladdasant hefyd Balaam fab Beor â'r cleddyf.
9. Cymerodd yr Israeliaid wragedd Midian a'u plant yn garcharorion, a dwyn yn ysbail eu holl wartheg a'u defaid a'u heiddo i gyd.