Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 24:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. a llefarodd ei oracl a dweud:“Gair Balaam fab Beor,gair y gŵr yr agorir ei lygaid

4. ac sy'n clywed geiriau Duw,yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog,ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:

5. Mor brydferth yw dy bebyll, O Jacob,a'th wersylloedd, O Israel!

6. Y maent yn ymestyn fel palmwydd,fel gerddi ar lan afon,fel aloewydd a blannodd yr ARGLWYDD,fel cedrwydd wrth ymyl dyfroedd.

7. Tywelltir dŵr o'i ystenau,a bydd digon o ddŵr i'w had.Bydd ei frenin yn uwch nag Agag,a dyrchefir ei frenhiniaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 24