Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 24:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan welodd Balaam fod yr ARGLWYDD yn dymuno bendithio Israel, nid aeth i arfer dewiniaeth, fel cynt; yn hytrach, trodd ei wyneb tua'r diffeithwch.

2. Cododd ei olwg a gweld yr Israeliaid yn gwersyllu yn ôl eu llwythau. Yna daeth ysbryd Duw arno,

3. a llefarodd ei oracl a dweud:“Gair Balaam fab Beor,gair y gŵr yr agorir ei lygaid

4. ac sy'n clywed geiriau Duw,yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog,ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:

5. Mor brydferth yw dy bebyll, O Jacob,a'th wersylloedd, O Israel!

6. Y maent yn ymestyn fel palmwydd,fel gerddi ar lan afon,fel aloewydd a blannodd yr ARGLWYDD,fel cedrwydd wrth ymyl dyfroedd.

7. Tywelltir dŵr o'i ystenau,a bydd digon o ddŵr i'w had.Bydd ei frenin yn uwch nag Agag,a dyrchefir ei frenhiniaeth.

8. Daeth Duw ag ef allan o'r Aifft,ac yr oedd ei nerth fel nerth ych gwyllt;bydd yn traflyncu'r cenhedloedd sy'n elynion iddo,gan ddryllio eu hesgyrn yn ddarnau,a'u gwanu â'i saethau.

9. Pan gryma, fe orwedd fel llew,neu lewes; pwy a'i deffry?Bydded bendith ar bawb a'th fendithia,a melltith ar bawb a'th felltithia.”

10. Yna digiodd Balac wrth Balaam; curodd ei ddwylo, a dywedodd wrtho, “Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond yr wyt ti wedi eu bendithio'r teirgwaith hyn.

11. Felly ffo yn awr i'th le dy hun; addewais dy anrhydeddu, ond fe gadwodd yr ARGLWYDD yr anrhydedd oddi wrthyt.”

12. Dywedodd Balaam wrth Balac, “Oni ddywedais wrth y negeswyr a anfonaist ataf,

13. ‘Pe rhoddai Balac imi lond ei dŷ o arian ac aur, ni allwn fynd yn groes i air yr ARGLWYDD a gwneud na da na drwg o'm hewyllys fy hun; rhaid imi lefaru'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD’?

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 24