34. Dywedodd Balaam wrth angel yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi pechu; ni wyddwn dy fod yn sefyll ar y ffordd i'm rhwystro. Yn awr, os yw'r hyn a wneuthum yn ddrwg yn dy olwg, fe ddychwelaf adref.”
35. Ond dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Balaam, “Dos gyda'r dynion; ond paid â dweud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti.” Felly aeth Balaam yn ei flaen gyda thywysogion Balac.
36. Pan glywodd Balac fod Balaam yn dod, aeth allan i'w gyfarfod yn Ar yn Moab, ar y ffin bellaf ger afon Arnon.
37. Dywedodd Balac wrtho, “Onid anfonais neges atat i'th alw? Pam na ddaethost ataf? Oni allaf ddelio'n anrhydeddus â thi?”
38. Atebodd Balaam ef, “Dyma fi wedi dod atat! Yn awr, a yw'r gallu gennyf i lefaru unrhyw beth ohonof fy hun? Ni allaf lefaru ond y gair a roddodd Duw yn fy ngenau.”
39. Felly aeth Balaam gyda Balac, a chyrraedd Ciriath-husoth.
40. Yna aberthodd Balac wartheg a defaid, a'u hanfon at Balaam a'r tywysogion oedd gydag ef.
41. Trannoeth aeth Balac i gyrchu Balaam i fyny i Bamoth-baal, ac oddi yno fe ganfu fod y bobl yn cyrraedd cyn belled ag y gwelai.