Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 22:30-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Yna gofynnodd yr asen i Balaam, “Onid myfi yw'r asen yr wyt wedi ei marchogaeth trwy gydol dy oes hyd heddiw? A wneuthum y fath beth â thi erioed o'r blaen?” Atebodd yntau, “Naddo.”

31. Yna agorodd yr ARGLWYDD lygaid Balaam, a phan welodd ef angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf yn barod yn ei law, plygodd ei ben ac ymgrymu ar ei wyneb.

32. Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrtho, “Pam y trewaist dy asen y teirgwaith hyn? Fe ddeuthum i'th rwystro am dy fod yn rhuthro i fynd o'm blaen,

33. ond gwelodd dy asen fi, a throi oddi wrthyf deirgwaith. Pe na bai wedi troi oddi wrthyf, buaswn wedi dy ladd di ac arbed dy asen.”

34. Dywedodd Balaam wrth angel yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi pechu; ni wyddwn dy fod yn sefyll ar y ffordd i'm rhwystro. Yn awr, os yw'r hyn a wneuthum yn ddrwg yn dy olwg, fe ddychwelaf adref.”

35. Ond dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Balaam, “Dos gyda'r dynion; ond paid â dweud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti.” Felly aeth Balaam yn ei flaen gyda thywysogion Balac.

36. Pan glywodd Balac fod Balaam yn dod, aeth allan i'w gyfarfod yn Ar yn Moab, ar y ffin bellaf ger afon Arnon.

37. Dywedodd Balac wrtho, “Onid anfonais neges atat i'th alw? Pam na ddaethost ataf? Oni allaf ddelio'n anrhydeddus â thi?”

38. Atebodd Balaam ef, “Dyma fi wedi dod atat! Yn awr, a yw'r gallu gennyf i lefaru unrhyw beth ohonof fy hun? Ni allaf lefaru ond y gair a roddodd Duw yn fy ngenau.”

39. Felly aeth Balaam gyda Balac, a chyrraedd Ciriath-husoth.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 22