Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 22:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Yr oedd Balac fab Sippor wedi gweld y cyfan a wnaeth Israel i'r Amoriaid,

3. a daeth ofn mawr ar Moab am fod yr Israeliaid mor niferus. Yr oedd y Moabiaid yn arswydo rhagddynt,

4. a dywedasant wrth henuriaid Midian, “Bydd y cynulliad hwn yn awr yn llyncu popeth o'n cwmpas, fel y mae'r ych yn llyncu glaswellt y maes.” Yr oedd Balac fab Sippor yn frenin Moab ar y pryd,

5. ac anfonodd ef genhadau at Balaam fab Beor yn Pethor, sydd yng ngwlad Amaw ac ar lan yr Ewffrates, a dweud, “Edrych, daeth pobl allan o'r Aifft, a chartrefu ar hyd a lled y wlad, ac y maent bellach gyferbyn â mi.

6. Tyrd, yn awr, a melltithia'r bobl hyn imi, oherwydd y maent yn gryfach na mi; yna, hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan o'r wlad, oherwydd gwn y daw bendith i'r sawl yr wyt ti'n ei fendithio, a melltith i'r sawl yr wyt ti'n ei felltithio.”

7. Felly aeth henuriaid Moab a Midian at Balaam, gyda'r tâl am ddewino yn eu llaw, a rhoi iddo'r neges oddi wrth Balac.

8. Dywedodd Balaam wrthynt, “Arhoswch yma heno; dychwelaf â gair atoch, yn ôl fel y bydd yr ARGLWYDD wedi llefaru wrthyf.” Felly arhosodd tywysogion Moab gyda Balaam. Yna daeth Duw at Balaam, a gofyn,

9. “Pwy yw'r dynion hyn sydd gyda thi?”

10. Atebodd Balaam ef, “Anfonodd Balac fab Sippor, brenin Moab, neges ataf yn dweud,

11. ‘Edrych, daeth pobl allan o'r Aifft, a chartrefu ar hyd a lled y wlad; tyrd, yn awr, a melltithia hwy imi; yna hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan.’ ”

12. Dywedodd Duw wrth Balaam, “Paid â mynd gyda hwy, na melltithio'r bobl, oherwydd y maent wedi eu bendithio.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 22