Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 22:12-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Dywedodd Duw wrth Balaam, “Paid â mynd gyda hwy, na melltithio'r bobl, oherwydd y maent wedi eu bendithio.”

13. Felly cododd Balaam drannoeth, a dweud wrth dywysogion Balac, “Ewch yn ôl i'ch gwlad, oherwydd gwrthododd yr ARGLWYDD i mi ddod gyda chwi.”

14. Yna cododd tywysogion Moab a mynd at Balac a dweud, “Y mae Balaam yn gwrthod dod gyda ni.”

15. Anfonodd Balac dywysogion eilwaith, ac yr oedd y rhain yn fwy niferus ac anrhydeddus na'r lleill.

16. Daethant at Balaam a dweud wrtho, “Dyma a ddywed Balac fab Sippor, ‘Paid â gadael i ddim dy rwystro rhag dod ataf;

17. fe ddeliaf yn gwbl anrhydeddus â thi, ac fe wnaf y cyfan a ddywedi wrthyf; felly tyrd, a melltithia'r bobl hyn imi.’ ”

18. Ond dywedodd Balaam wrth weision Balac, “Pe bai Balac yn rhoi imi lond ei dŷ o arian ac aur, ni allaf wneud yn groes i'r hyn y bydd yr ARGLWYDD fy Nuw yn ei orchymyn.

19. Yn awr, arhoswch yma heno, er mwyn imi wybod beth arall a ddywed yr ARGLWYDD wrthyf.”

20. Daeth Duw at Balaam liw nos, a dweud wrtho, “Os yw'r dynion wedi dod i'th gyrchu, yna dos gyda hwy; ond paid â gwneud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti.”

21. Cododd Balaam drannoeth, ac ar ôl cyfrwyo ei asen, aeth gyda thywysogion Moab.

22. Ond digiodd Duw wrtho am fynd, a safodd angel yr ARGLWYDD ar y ffordd i'w rwystro. Fel yr oedd yn marchogaeth ar ei asen, a'i ddau was gydag ef,

23. fe welodd yr asen angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a chleddyf yn barod yn ei law; felly trodd yr asen oddi ar y ffordd, ac aeth i mewn i gae. Yna trawodd Balaam hi er mwyn ei throi yn ôl i'r ffordd.

24. Safodd angel yr ARGLWYDD wedyn ar lwybr yn arwain trwy'r gwinllannoedd, a wal o boptu iddo.

25. Pan welodd yr asen angel yr ARGLWYDD, gwthiodd yn erbyn y wal, gan wasgu troed Balaam rhyngddi a'r wal.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 22