Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 22:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Dywedodd Duw wrth Balaam, “Paid â mynd gyda hwy, na melltithio'r bobl, oherwydd y maent wedi eu bendithio.”

13. Felly cododd Balaam drannoeth, a dweud wrth dywysogion Balac, “Ewch yn ôl i'ch gwlad, oherwydd gwrthododd yr ARGLWYDD i mi ddod gyda chwi.”

14. Yna cododd tywysogion Moab a mynd at Balac a dweud, “Y mae Balaam yn gwrthod dod gyda ni.”

15. Anfonodd Balac dywysogion eilwaith, ac yr oedd y rhain yn fwy niferus ac anrhydeddus na'r lleill.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 22