Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 19:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. “ ‘Bydd y sawl sy'n cyffwrdd â chorff marw unrhyw un yn aflan am saith diwrnod;

12. y mae i'w olchi ei hun â dŵr ar y trydydd a'r seithfed dydd, a bydd yn lân, ond os na fydd yn ei olchi ei hun ar y trydydd a'r seithfed dydd, ni fydd yn lân.

13. Bydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd â chorff marw unrhyw un, a heb ei olchi ei hun, yn halogi tabernacl yr ARGLWYDD, a bydd yn cael ei ddiarddel o Israel; bydd yn aflan, ac yn parhau'n aflan, am nad yw wedi ei drochi mewn dŵr puredigaeth.

14. “ ‘Dyma'r ddeddf pan fydd rhywun yn marw mewn pabell: bydd unrhyw un a ddaw i mewn i'r babell, ac unrhyw un a oedd ynddi'n barod, yn aflan am saith diwrnod.

15. Bydd pob llestr agored, heb gaead wedi ei gau arno, yn aflan.

16. Bydd pwy bynnag sydd allan yn y maes ac yn cyffwrdd ag un a fu farw trwy'r cleddyf, neu â chorff marw unrhyw un, neu asgwrn ohono, neu ei fedd, yn aflan am saith diwrnod.

17. Ar gyfer y rhai aflan fe gymerir peth o ludw'r aberth dros bechod, a thywallt dŵr glân drosto mewn llestr;

18. yna bydd rhywun sy'n lân yn cymryd isop, yn ei drochi mewn dŵr, ac yn ei daenellu ar y babell a'i holl ddodrefn, ac ar bawb oedd yno, ac ar y sawl a gyffyrddodd ag asgwrn neu fedd un a gafodd ei ladd neu a fu farw;

19. bydd y sawl sy'n lân yn ei daenellu dros yr aflan ar y trydydd a'r seithfed dydd, ac erbyn y seithfed dydd bydd wedi ei lanhau; yna bydd yn golchi ei ddillad ei hun a'i gorff â dŵr, ac erbyn yr hwyr bydd yntau'n lân.

20. “ ‘Os yw rhywun yn aflan ac yn gwrthod ei olchi ei hun, fe'i torrir ymaith o blith y cynulliad am iddo halogi cysegr yr ARGLWYDD; bydd yn aflan am na throchwyd ef mewn dŵr puredigaeth.

21. Bydd hyn yn ddeddf iddynt am byth. Y mae'r sawl sy'n taenellu'r dŵr puredigaeth i olchi ei ddillad; bydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd â'r dŵr yn aflan tan yr hwyr.

22. Bydd beth bynnag y bydd rhywun aflan yn ei gyffwrdd yn troi'n aflan, ac os bydd rhywun yn cyffwrdd â'r peth aflan hwnnw, bydd yntau'n aflan tan yr hwyr.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 19