Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 19:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

2. “Dyma'r ddeddf a'r gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD: ‘Dywed wrth bobl Israel am ddod â buwch atat, un goch heb unrhyw ddiffyg na nam arni, ac na fu erioed dan iau.

3. Rhowch hi i Eleasar yr offeiriad, a deuer â hi y tu allan i'r gwersyll a'i lladd ger ei fron.

4. Yna fe gymer Eleasar yr offeiriad beth o'r gwaed a'i daenellu â'i fys saith gwaith ar du blaen pabell y cyfarfod.

5. Llosger y fuwch yn ei ŵydd, ynghyd â'i chroen, ei chig, ei gwaed a'i gweddillion.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 19