Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 17:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Trannoeth aeth Moses i mewn i babell y dystiolaeth, a gwelodd fod gwialen Aaron, a oedd yn cynrychioli tŷ Lefi, wedi blaguro a blodeuo a dwyn almonau aeddfed.

9. Yna daeth Moses â'r holl wiail oedd gerbron yr ARGLWYDD allan at holl bobl Israel, ac wedi iddynt eu gweld, cymerodd pob dyn ei wialen.

10. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Rho wialen Aaron yn ôl o flaen y dystiolaeth fel arwydd i'r rhai gwrthryfelgar; rhydd hyn daw ar eu grwgnach yn f'erbyn, rhag iddynt farw.”

11. Gwnaeth Moses yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

12. Dywedodd pobl Israel wrth Moses, “Edrych, yr ydym yn trengi! Y mae wedi darfod amdanom! Y mae wedi darfod am bob un ohonom!

13. Bydd pob un sy'n nesáu at dabernacl yr ARGLWYDD yn marw. Ai trengi fydd tynged pob un ohonom?”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 17