Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 16:40-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. i atgoffa pobl Israel nad oedd neb heblaw'r rhai oedd yn gymwys, sef disgynyddion Aaron, i ddynesu i losgi arogldarth gerbron yr ARGLWYDD, rhag iddo fod fel Cora a'i gwmni. Gwnaed hyn fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Eleasar trwy Moses.

41. Trannoeth dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron, a dweud, “Yr ydych wedi lladd pobl yr ARGLWYDD.”

42. Ac wedi i'r cynulliad ymgynnull yn erbyn Moses ac Aaron, troesant at babell y cyfarfod a gwelsant gwmwl yn ei gorchuddio a gogoniant yr ARGLWYDD yn ymddangos.

43. Yna daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod,

44. a dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

45. “Ewch ymaith o blith y cynulliad hwn, oherwydd yr wyf am eu difa ar unwaith.” Syrthiasant ar eu hwynebau,

46. a dywedodd Moses wrth Aaron, “Cymer thuser, a rho ynddo dân oddi ar yr allor, a gosod arno arogldarth, a dos rhag blaen at y cynulliad, a gwna gymod drostynt; daeth digofaint oddi wrth yr ARGLWYDD, ac y mae'r pla wedi dechrau.”

47. Gwnaeth Aaron fel yr oedd Moses wedi dweud, a rhedodd i ganol y cynulliad, ond gwelodd fod y pla eisoes wedi dechrau ymhlith y bobl. Rhoddodd arogldarth ar y thuser, a gwnaeth gymod dros y bobl.

48. Safodd rhwng y meirw a'r byw, ac fe beidiodd y pla.

49. Bu farw pedair mil ar ddeg a saith gant trwy'r pla, heblaw'r rhai a fu farw o achos Cora.

50. Yna, wedi i'r pla beidio, aeth Aaron yn ôl at Moses yn nrws pabell y cyfarfod.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 16